Beth yw'r delwedd yn y cefndir?
Lleolir Technoleg Taliesin ym Mhentref Tre-Taliesin, yng Ngogledd Ceredigion, felly dyna'r rheswm am enw'r cwmni.
Mae'r pentref ei hun yn un gymharol newydd - adeiladwyd y mwyafrif yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar yr un pryd, penderfynwyd newid hen enw'r lle (Tafarn Fach) i rywbeth tipyn mwy parchus, felly 'Tre Taliesin', wedi ei enwi ar ôl bedd y bardd cynnar, sy' wedi cael ei gladdu yn y bryniau uwchben i'r pentref (wel, dyna'r stori leol)
Dangosir y ddelwedd gefndirol ar ein gwefan Bedd Taliesin. Mae'n bosibl gael signal symudol yno, ond dydyn ni ddim yn ei gymeradwyo fel swyddfa!
I ddysgu mwy am hanes yr ardal cymerwch gip ar wefan hanes y plwyf.